Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018
Amser:
09.02 -
10.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4754
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· cynnal ymchwiliad byr, trefnu sesiynau tystiolaeth llafar yn hwyrach yn nhymor y gwanwyn; ac
· yn y cyfamser, gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig bellach gan randdeiliaid perthnasol ar y materion a nodir yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am safbwyntiau'r deisebydd ar yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg;
· ystyried camau pellach, gan gynnwys ysgrifennu at Estyn, ar ôl cael safbwyntiau'r deisebydd.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i barhau i edrych ar y datblygiadau a gofyn am ddiweddariad gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn chwe mis.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
· pan fydd y contract asesu stoc yn cael ei roi i dendr, dylai'r cylch gwaith gynnwys mathau, dwysedd ac iechyd corfforol cyllyll môr yn ogystal ag asesiad o'r effeithiau amgylcheddol posibl gorbysgota ar welyau cregyn bylchog;
· codi arwyddion mwy amlwg a chadarn yn sgil pryderon a fynegwyd nad yw'n ymddangos bod yr arwyddion presennol yn addas at y diben.
Bu'r Pwyllgor yn trafod ymatebion gan bum awdurdod lleol a nododd yn flaenorol nad oeddent yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr. Yn sgil cyfeiriad diweddar at awdurdod lleol arall mewn perthynas â'r mater hwn, cytunodd Aelodau i ofyn am eglurhad pellach ynghylch pa awdurdodau lleol nad ydynt yn sganio carcasau anifeiliaid anwes gyda'r bwriad o bosibl i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i awgrymu ei bod hi'n cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunwyd i:
· ysgrifennu at Cefas i ofyn am eu hymateb i bryderon dros y fethodoleg brofi a godwyd gan y deisebwyr;
· llunio adroddiad crynodeb o'r dystiolaeth a ddaeth i law wrth i'r Pwyllgor drafod y ddeiseb; a
· gofyn am amser am ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i:
o rannu pryderon y deisebydd ynghylch effaith cymhwyso TAN 1 ar Gynlluniau Datblygu Lleol, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad presennol ar Bolisi Cynllunio Drafft Cymru;
o gofyn am ragor o wybodaeth am waith ymchwil i'r materion gyda'r penderfyniad i gyflenwi tir tai y cyfeiriwyd ato yn ei llythyr ar 6 Mawrth;
· trefnu sesiynau tystiolaeth lafar ar y ddeiseb ar gyfer hwyrach yn nhymor yr haf.
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i aros am gyhoeddiad yn dilyn adroddiad gan ddadansoddwyr annibynnol ar y wybodaeth ariannol a rannwyd gan berchnogion safleoedd cyn trafod p'un a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet unwaith y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r arolwg ar gyflwr ysgolion a'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol ar y Canllawiau i Reoli Asbestos mewn Ysgolion.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cael llythyr ynghylch absenoldeb heb awdurdod o'r ysgol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn flaenorol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunodd i aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn flaenorol.
Trafododd Aelodau ymatebion i adroddiad cryno'r Pwyllgor ar ei drafodaeth o'r ddeiseb hyd yma a chytunodd i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad ei bod hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu lleol sy'n mynd rhagddynt. Wrth wneud hynny, roedd Aelodau yn dymuno diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ofyn eu bod yn cwrdd â'r deisebydd i drafod ei phryderon ynghylch y cymorth sydd ar gael ac opsiynau gofal posibl yn y dyfodol, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb unwaith y bydd y cyfarfod wedi digwydd.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a'r deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law ac oherwydd nad yw'r Pwyllgor Deisebau mewn sefyllfa i argymell y dylai sefydliadau penodol gael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu eraill.
Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig drwy'r broses ddeisebau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
· ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl;
· gwahodd y deisebydd a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn i'r Llywodraeth ymgynghori ag unrhyw breswylwyr fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol os yw'n cynnig gwerthu'r tir;
· cadw llygad ar ddatblygiadau.
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.
Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.
Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth gan sefydliadau iechyd meddwl trydydd sector ynghylch y materion a nodwyd yn y ddeiseb a'r dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma.